A train exits the northern end of the Ffestiniog Tunnel on the Conwy Valley Line
***
Mynd nôl i Flaenau Ffestiniog
Mae rheilffordd Dyffryn Conwy, sy’n rhedeg o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog, yn teithio trwy 28 o filltiroedd o olygfeydd syfrdanol gogledd Cymru. O dirweddau diwydiannol, trwy goetir hynafol, rhosydd gwyntog a mynyddoedd geirwon Eryri - gallwch weld holl elfennau harddwch naturiol yr ardal o deithio ar ei hyd. Fodd bynnag, mae rhyfeddod peirianyddol y llinell yn llechu mewn tawelwch a thywyllwch, nid yn y golygfeydd.
Twnnel Blaenau Ffestiniog, sy’n 2.5 milltir a bron pum munud o dywyllwch pur dan y bryniau cyfagos, yw’r twnnel hiraf heb leinin yn y DU. Mae hyn yn golygu nad oes gan y twnnel unrhyw ychwanegiadau strwythurol a dim atgyfnerthiadau concrid neu ddur – dim ond cryfder cyffredin y graig gyfagos.
Tirwedd llechi
Sefydlwyd yr ardal o amgylch Blaenau yn brif ardal llechi mwy na hanner canrif cyn adeiladu’r twnnel, gyda’i chwareli’n atsain o synau moelion a cherti. Yn 1836, agorwyd rheilffordd gul Ffestiniog, sydd bellach yn rheilffordd dreftadaeth, i gludo llechi o chwareli Blaenau Ffestiniog i’r porthladd ym Mhorthmadog.
Fodd bynnag, gwelodd arloeswyr cwmni rheilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin (LNWR) gyfle ehangach: byddai cysylltu Blaenau a’i chwareli’n uniongyrchol â’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol yn gwella mynediad i weithwyr a thwristiaid, ac yn agor llwybrau allforio i gadarnleoedd diwydiannol Lloegr a oedd yn tyfu. Y prif rwystr i wireddu’r freuddwyd? Bryn mawr - neu ‘Dewey’ i rai sy’n cerdded mynyddoedd – o’r enw Moel Dyrnogydd. Ond nid oedd hynny’n ddigon i atal peirianwyr penderfynol.
Dod o hyd i’r ffordd
Nid peth hawdd oedd llafurio mewn amgylchiadau tywyll a chaled, yn defnyddio offer sylfaenol a ffrwydron i gloddio’r ffordd trwy gopa sy’n 790 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr. Dechreuodd y gwaith o gloddio’r twnnel yn 1873, a bu’r gweithwyr yn ymlwybro ynddo am chwe blynedd. Ar adegau, byddent yn dod ar draws llechen mor galed byddai’n torri’r cyfarpar ac yn treulio darnau driliau’n gynt nag yr oedd modd eu hadnewyddu.
Fodd bynnag, enillodd penderfyniad, dyfalbarhad a dyfeisgarwch y dydd, ac agorwyd terminws yn ymyl ceg y twnnel ym mis Gorffennaf 1879. Erbyn 1881, roedd y llinell wedi cyrraedd canol Blaenau.
Y broblem yw…
Roedd y ffaith nad oedd gan y twnnel leinin, wedi’i chyfuno ag effeithiau amser a natur, yn golygu bod cerrig yn cwympo a dŵr yn treiddio i’r twnnel yn fwyfwy aml, gan effeithio ar ddibynadwyedd a pherfformiad diogel y rheilffordd.
Fodd bynnag, yn 2019, cymeradwywyd system rhwydi ar gyfer atal cerrig rhag cwympo gan Network Rail a oedd yn werth £2.1 miliwn, er mwyn gwella diogelwch a dibynadwyedd y twnnel. Dros gyfnod o 21 o ddiwrnodau, gosododd ein contractiwr Griffiths Civil Engineering 600 o folltau cerrig 2.5m o hyd wedi’u gwneud o ddur gloyw, a 1500m2 o rwydi atal cwympiadau cerrig wedi’u gwneud o ddur gloyw tra hydwyth, gan roi cryfder newydd i’r rhyfeddod hwn o oes Fictoria, heb darfu ar ei enaid.
Nôl ar y trac
Distawyd y rhan fwyaf o fwyngloddiau Blaenau, ond ni aeth pob un yn angof. Mae Chwarel Ffestiniog, a fu’n rhan o’r cwmni Oakeley enfawr, wedi deffro o’i hymddeoliad. Mae ei llechi main, ysgafn a llwydlas bellach yn coroni gorsaf St Pancras, y Rijksmuseum yn Amsterdam, a Neuadd y Dref Westerloo yng ngwlad Belg.
Er bod byd o wahaniaeth rhwng yr adfywiad presennol a’r cyfnod pan oedd Blaenau Ffestiniog ar ei anterth, yn cyflogi mwy na 2,500 o bobl ac yn cynhyrchu miliynau o lechi bob blwyddyn, mae’n dangos gwerthfawrogiad o’r newydd o dreftadaeth ddaearyddol a chrefftwaith yr ardal.
Ac fel y gwnaeth ers canrif a hanner, bydd y twnnel yno’n disgwyl i fynd â phobl i’r ardal ac i gludo llechi allan ohoni, yn mynd trwy adfyd – daearyddol, ariannol a chymdeithasol – ac yn dod allan ohono gyda’i etifeddiaeth yn gyfan.